Beth yw Canolfan Felin Fach?

Mae'r Ganolfan yn darparu gwasanaethau ar dau lefel, sef:
Adnoddau ac ystafelloedd ar gyfer grwpiau a mudiadau gwirfoddol (a rhai statudol) sydd yn eu galluogi i gael safle ym Mhwllheli er hwylustod eu cleientiaid arbennig yn Nwyfor.
Gwybodaeth a chefnogaeth i unigolion sydd yn mynd drwy brofiad neu yn gwella oddiwrth broblemau iechyd meddwl, neu cam ddefnyddio alcohol a chyffuriau, neu sydd yn teimlo'n ynysig o fewn eu cymuned.
Ein Safonau
Mae Canolfan Felin Fach Centre yn anelu at sicrhau bod pob person a grwp sydd yn defnyddio ei gwasanaeth yn cael eu trin yn deg a chyson, a bod y Ganolfan mor groesawgar a phosib ar gyfer ein holl ddefnyddwyr.
Gwneir pob ymdrech y gynnal awyrgylch cyfeillgar, croesawgar ac ymlaciol sydd yn holl bwysig os yw pobl am deimlo'n ddiogel a chyffyrddus pan yn defnyddio'r gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael yma.
Credwn bod gan pawb yr hawl i:
- Gael eu trin gyda pharch, cwrteisi ac urddas pob amser
- Gael gwrandawiad heb gael eu barnu
- Gael eu cefnogi yn eu dewis
- Gael eu cynnwys mewn trafodaethau am ddatblygiad y Ganolfan a'i gwasanaeth
- Wneud cynigion neu gwynion.
Credwn mewn hybu iechyd meddwl pendant drwy:
- Ddarparu gweithgareddau sydd yn cyfarfod anghenion ein defnyddwyr
- Annog, cefnogi a galluogi unigolion i fynegi eu barn, gwneud cynigion ac i gymryd rhan mewn cynllunio gweithgareddau
- Cynnig cyfleoedd hyfforddiant a gweithgareddau datblygiad personol i alluogi'r unigolyn ehangu eu sgiliau a hyrwyddo eu gallu
- Ddarparu'r wybodaeth perthnasol a fydd yn galluogi'r unigolyn i wneud eu dewis eu hunain
- Galluogi pobl i wneud eu penderfyniadau a dewis eu hunain am y gweithgareddau a gwasanaethau y maent am eu defnyddio
- Hybu cyfranogiad y gymuned drwy gynnig cyfleon mewn gwaith gwirfoddol
- Anelu at leihau stigma gan hysbysu'r cyhoedd drwy ymgyrchoedd rhannu gwybodaeth
- Rhwydweithio gyda gwasanaethau a grwpiau gwirfoddol a statudol eraill fel y gallwn gynnig safon o wasanaeth gorau posib er budd ynigolion sydd angen cefnogaeth
Beth sydd ar gael yma?