 |
|
|
|
Mae ganom wasanaeth drws agored (nid oes angen gwneud trefniant ymlaen llaw) o 10.00 y bore hyd 7.00 yr hwyr o ddydd Llun i Gwener, a gallwch alw i mewn unrhyw dro o fewn yr amser yma.
Mae’r llinell ffôn ar agor o 10.00 y bore hyd 4.00 y prynhawn os y byddai’n fwy cyfleus ichi ffonio am wybodaeth neu glust i wrando.
Mae ein gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol, a ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth am berson sydd yn ymddiried ynddon gydag unrhyw berson arall o fewn na thu allan i’r Ganolfan os na chawn ganiatâd y person dan sylw.
|
 |
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys :
- Gwybodaeth llafar ac ysgrifenedig ar wahanol faterion sydd yn ymwneud a iechyd meddwl, alcohol neu gyffuriau.
- Cefnogaeth gyda gwahanol faterion e.e. di-gartrefedd; llenwi ffurflenni; cysylltu a’r gwasanaethau lles ac ati.
- Cyfle i gymdeithasu trwy’r Clwb Hamddena a Chlwb y Pentan, ynghyd a nifer o weithgareddau eraill
- Gweithgareddau therapiwtig e.e. sesiynau ymlacio, garddio, gwaith llaw, celf ac ati.
- Cyfleuon i ddatblygu sgiliau personol e.e. sgiliau byw cyffredinol, llythrennu a rhifyddeg sylfaenol, gwersi Cymraeg, cyrsiau magu hunan hyder ac ati.
- Cefnogaeth cymdeithasol i helpu pobl i ddatblygu a chynnal bywyd cymdeithasol mwy cyflawn.
|
|
|
|
| |
Canolfan Felin Fach, Mount Pleasant, Penlan St, Pwllheli, Gwynedd LL53 5DE |
|
|