Cynllun Cam wrth Gam – Pwrpas ac amcanion
- Datblygu gwasanaeth ymestyn gwybodaeth a chefnogaeth i bentrefi Pen Llyn
- Lleihau / rhwystro ynysrwydd cymdeithasol drwy ddarparu cefnogaeth i unigolion, i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasu a hamdden yn eu cymuned.
- Cefnogi pobl sydd yn cael trafferthion ynglŷn â chartrefu
- Datblygu gwasanaeth cyfeillgaru i unigolion sydd wedi eu hynysu’n gymdeithasol oherwydd trafferthion eu hiechyd meddyliol.
Clwb Hamddena
Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol i drafod a chynllunio rhaglen o weithgareddau am y mis i ddod - croeso i bawb ymuno yn y cyfarfodydd, neu i gymryd rhan yn y gweithgareddau. Aelodaeth am ddim. Bydd y cyfarfod nesaf dydd Iau 9fed o Fawrth am 1.30 y prynhawn yn Canolfan Felin Fach. Gweler y Calendr am weithgareddau sydd i ddod. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.
Gweithgareddau rheolaidd sydd ar gael o fewn oriau galw heibio
Nos Fercher yn noson Bingo ! Pob wythnos yn cychwyn am 5.30y.p.
Pwl
Dartiau
Snwcer – prynhawniau Mawrth 1.30
Gwaith llaw / Celf
Scrabl
Dominos
Os hoffech fwy o wybodaeth am beth sydd gan y Cynllun yma i’w gynnig, neu os yr hoffech wirfoddoli i’n helpu ni i weinyddu rhai o’r gweithgareddau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Er mwyn gweld a darllen dogfennau pdf, byddwch angen meddalwedd "Adobe Acrobat® Reader". Os nad ydy'r meddalwedd yma gennych, ymwelwch â gwefan Adobe®.