Rheolau Clwb 200
1. Aelodaeth yn agored i bawb, ond wedi ei gyfyngu at uchafswm o 200 aelod ar y tro.
2. Pob aelod yn cytuno i dalu £2 y mis (ymlaen llaw).
3. Gall aelodau ddewis talu yn fisol, pob tri mis, pob chwe mis neu am y flwyddyn fel y dymunant.
4. Bydd pob aelod yn derbyn cerdyn a rhif aelodaeth - nodir pob taliad a’i gwneir ar y cerdyn aelodaeth. Mae Canolfan Felin Fach hefyd yn cadw cofnod o’r taliadau.
5. Os bydd aelod yn methu eu taliad am y mis, ni fyddent yn cael eu cynnwys yn y tynnu am wobr am y mis hwnnw.
6. Os bydd aelod yn methu taliad dau fis yn olynol, byddent yn colli eu haelodaeth a bydd rhywun arall yn cael cymryd eu lle. Byddent yn cael eu hysbysu trwy lythyr am hyn.
7. Tynnu gwobrau arian yn fisol (Mercher cyntaf pob mis)
8. Bydd pob aelod sydd wedi talu am y mis hwnnw yn cael eu cynnwys.
9. Hanner yr arian a’i codir pob mis yn cael ei rannu yn wobrau arian - yr hanner arall yn mynd i’r Gronfa.
10. Rhoir gwobrau arian 1af, 2il 3ydd ac ati. Lleiafswm o 3 - uchafswm o 10 yn ddibynnol ar faint sydd ar gael yn y pot.
11. Rhown wybod i’r enillwyr o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Gwasanaeth newydd i Ben Llyn
Gwasanaeth galw heibio am wybodaeth a chefnogaeth wedi ei gychwyn yn y lleoliadau canlynol :
Canolfan Bryncroes – pob bore Llun o 10.00 i 12.00
Canolfan Tudweiliog – pob bore Iau o 10.00 i 12.00
Bydd ein gweithwyr cefnogaeth hyfforddedig ar gael os ydych angen gwybodaeth am y gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal, neu os ydych angen siarad am eich gofidion neu broblemau. Mae hwn yn wasanaeth am ddim ac yn gwbl gyfrinachol. Nid oes angen gwneud trefniant ymlaen llaw.
Byddwn yn darparu’r gwasanaeth yma yn Clwb Hwylio Hogia Llyn, Aberdaron o fis Ebrill – mwy o wybodaeth maes o law.
APÊL
Yr ydym angen gwirfoddolwyr i helpu ein gweithwyr cefnogaeth yn y lleoliadau uchod – hyd at ddwy awr yr wythnos.
Yr ydym angen gwirfoddolwyr i helpu gyda gweinyddu ein gwasanaeth galw heibio gyda’r nos yn y Ganolfan 5.00 – 7.00 yr hwyr.
Yr ydym angen gwirfoddolwyr i helpu i weinyddu gweithgareddau’r Clwb Hamddena – i gadw cwmni a chefnogi pobl tra byddent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasu a hamdden.
Os yr hoffech chi ymuno a’n tîm, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Gwelwch hefyd beth allwn ni ei gynnig i’n gwirfoddolwyr ar y safle hwn.
Os na allwch ddod o hyd i’r gwybodaeth yr ydych angen mae croeso i chi gysylltu gyda ni |