Canolfan Felin Fach Centre Ltd.
Ein Safonau


Mae Canolfan Felin Fach yn anelu at sicrhau bod pob person a grwp sydd yn defnyddio ei gwasanaeth yn cael eu trin yn deg a chyson, a bod y Ganolfan mor groesawgar a phosibl ar gyfer ein holl ddefnyddwyr.
Gwneir pob ymdrech i gynnal awyrgylch cyfeillgar, croesawgar ac ymlaciol sydd yn holl bwysig os yw pobl am deimlo’n ddiogel a chyffyrddus pan yn defnyddio’r gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael yma.

Credwn bod gan pawb yr hawl i :

  • Gael eu trin gyda pharch, cwrteisi ac urddas pob amser
  • Gael gwrandawiad heb gael eu barnu
  • Gael eu cefnogi yn eu dewis
  • Gael eu cynnwys mewn trafodaethau am ddatblygiad y Ganolfan a’i gwasanaeth
  • Wneud cynigion neu gwynion

Credwn mewn hybu iechyd meddwl pendant drwy :

  • Ddarparu gweithgareddau sydd yn cyfarfod anghenion ein defnyddwyr
  • Annog, cefnogi a galluogi unigolion i fynegi eu barn, gwneud cynigion ac i gymryd rhan mewn cynllunio gweithgareddau
  • Cynnig cyfleoedd hyfforddiant a gweithgareddau datblygiad personol i alluogi’r unigolyn ehangu eu sgiliau a hyrwyddo eu gallu
  • Ddarparu’r wybodaeth perthnasol a fydd yn galluogi’r unigolyn i wneud eu dewis eu hunain
  • Galluogi pobl i wneud eu penderfyniadau a dewis eu hunain am y gweithgareddau a gwasanaethau y maent am eu defnyddio
  • Hybu cyfranogiad y gymuned drwy gynnig cyfleon mewn gwaith gwirfoddol
  • Anelu at leihau stigma gan hysbysu’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd rhannu gwybodaeth
  • Rhwydweithio gyda gwasanaethau a grwpiau gwirfoddol a statudol eraill fel y gallwn gynnig safon o wasanaeth gorau posibl er budd unigolion sydd angen cefnogaeth
www.canolfanfelinfach.org
Cliciwch yma
 
Canolfan Felin Fach, Mount Pleasant, Penlan St, Pwllheli, Gwynedd LL53 5DE

Dylyniwyd gan Delwedd

Sôn wrth ffrind E-bostiwch Ni Marciwch Ni Argraffu