Mae ein gwirfoddolwyr yn cyfrannu tuag at well ansawdd bywyd cymdeithasol Defnyddwyr ein gwasanaeth, ac yn gwneud gwahaniaeth pendant trwy roi ychydig o’u hamser pob wythnos i’n helpu i weinyddu ein gwasanaeth galw heibio, gweithgareddau cymdeithasol, gweithgareddau codi arian ac ati.
Gwyddwn bod gwirfoddoli yn newid bywydau pobl mewn sawl ffordd – mae’r bobl sydd yn gwirfoddoli eu hamser yn elwa yn ogystal a’r bobl sydd yn derbyn ein gwasanaeth.
Trwy roi ychydig o’ch amser pob wythnos, gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun arall.