Y Galw Heibio
Mae'r Ganolfan yn darparu gwasanaeth galw heibio dyddiol ar gyfer unrhyw un sadd angen cwmpeini, cefnogaeth neu wybodaeth. Mae croeso i bawb alw i mewn heb wneud trefniant ymlaen llaw, a gallwn addo croeso cynnes, paned a sgwrs.
Mae gweithgareddau'r Ganolfan yn cael eu hwyluso a'u cefnogi gan wirfoddolwyr sydd wedi cael eu hyfforddi. Mae yma nifer o gyfleoedd mewn gwaith gwirfoddol.
Gweithgareddau
Gweler ein rhaglen misol o weithgareddau.
Clwb Cinio
Cynhelir y Clwb cinio bob Dydd Mawrth. Mae defnyddwyr y galw heibio, sydd wedi mynychu cwrs hylendid bwyd, yn paratoi pryd o fwyd gyda chymorth un o'n gwirfoddolwyr.
Clwb Celf
Mae'r clwb Celf yma bob pnawn Llun. Mae deunydd peintio ar gael yma'n y Ganolfan ynghyd a chameras digidol.
Clwb Hamddena
Cynhelir cyfarfod o'r Clwb Hamddena un waith y mis i drafod a threfnu gweithgareddau am y mis i ddod. Mae croeso cynnes i bawb yn y cyfarfod ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau. Aelodaeth am ddim.
Cyrsiau
Gweithgareddau Eraill
Pwl, Dartiau, Scrabble, Dominoes. Bydd cyfle i gael massage dwylo dwy waith y mis.
Oriau Agor y Galw Heibio
Dydd Llun 10.00am to 4.00pm
Dydd Mawrth 10.00am to 5.00pm
Dydd Mercher 3.00pm to 6.00pm
Dydd Iau 10.00am to 5.00pm
Dydd Gwener 10.00am to 4.00pm

