Gwybodaeth am y Cynllun Gardd

logo

Beth ydi'r Cynllun Gardd?

Prosiect garddio therapiwtig i unigolion sydd yn mynd drwy brofiad neu yn gwella oddiwrth broblemau iechyd meddwl, neu cam ddefnyddio alcohol a chyffuriau, neu sydd yn teimlo'n ynysig o fewn eu cymuned.



Ble mae'r ardd?

Ger yr ysgol uwchradd yn Botwnnog. Mae bws rhif 17 yn rhedeg rhwng Pwllheli a Botwnnog, ac mae trafnidiaeth bws mini yn cael ei drefnu rhwng Canolfan Felin Fach ym Mhwllheli a'r ardd ar gyfer mynychwyr y prosiect. Mae swyddfa'r prosiect ym Mhwllheli.

logo
 

Beth ydan ni'n tyfu?

Fe fyddwn ni'n tyfu ystod eang o lysiau, ffrwythau, blodau a pherlysiau.

gardening
 

Beth arall sy'n digwydd?

Byddwn yn trefnu gweithgareddau eraill yn ymwneud a garddio o byd i'w gilydd, e.e. ymweliadau i erddi eraill, dyddiau hyfforddiant, sgyrsiau a gweithdai.

Mae gweithgareddau'r cynllun gardd yn cael eu penderfynnu gan y bobl sy'n cymryd rhan, felly os oes gyda chi rhywbeth arbennig yr hoffech chi ei awgrymu, rydym yn agored iawn i'ch syniadau.

logo
 

Sut ga i ymuno yn y cynllun?

Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y cynllun, ond gofynnwn i chi gysylltu â ni ymlaen llaw cyn dod am y tro gyntaf.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda:

 Seran Dolma,

Swyddog Datblygu Cynllun Gardd.

Rhif ffôn: 01758 701611

ebost: seranfelinfach@gmail.com

 
logo