Ystafelloedd i'w llogi yn Canolfan Felin Fach

Mae sawl ystafell o wahanol maint ar gael i'w llogi yng Nghanolfan Felin Fach. Mae'r adeilad wedi'u addasu ar gyfer yr anabl.

Mae'n bosib defnyddio'r adeilad ar unrhyw adeg o fewn ein hamser agor cyffredin, h.y. 9.00 y bore hyd at 5.00 y pnawn Dydd Llun i Dydd Gwener, neu ar amseroedd eraill trwy drefniant arbennig.
Cynigir cyfleusterau eraill e.e. gliniaduron, argraffyddion, flipcharts a gwely aromatherapy. Mae te a choffi, dwr a gwydrau ar gael ar gyfer cyfarfodydd.

 Canolfan Felin Fach

Derbynfa

derbynfa  
 
Mae'r Dderbynfa ar agor o 9.00 hyd at 12.00 y bore a 1.00 i 4.00 y pnawn.

  
 

Yr Ystafelloedd

Eifl

 

Eifl

Mae'r Eifl yn ystafell gyfarfod gyffyrddus ar y llawr gwaelod ar gyfer 6 i 8 o bobl.  
 

 Glaslyn

  

Glaslyn

Ystafell gyfarfod/hyfforddiant i grwpiau hyd at 8 i 10 o bobl ar y llawr cyntaf. Mae'n addas iawn ar gyfer gwaith swyddfa neu gyfweliadau hefyd.
 

 Solfach

 

Solfach

Mae Solfach yn ystafell fawr, addas ar gyfer cynadleddau, hyfforddiant, fforymau ac ati.

 Solfach



 Madryn

Madryn

Ystafell gyfarfod gyffyrddus ar y llawr cyntaf ar gyfer 6 i 8 person gyda desg bach mewn un congl ar gyfer gwneud gwaith gweinyddol.  

 Nant

 

Nant

Mae Nant yn ystafell gynghori ar y llawr cyntaf. Mae gwely aromatherapi yma.   

 Drop-in

Ystafell gymunedol

Mae'r ystafell gymunedol yn cynnwys cegin fodern, bwrdd pwl a bwrdd dartiau ac mae posib ei defnyddio gyda'r nosau ar gyfer gweithgareddau grwp anffurfiol.