Gwirfoddoli
Mae ein gwirfoddolwyr yn cyfrannu tuag at well ansawdd bywyd cymdeithasol defnyddwyr ein gwasanaeth, ac yn gwneud gwahaniaeth pendant trwy roi ychydig o'u hamser pob wythnos i'n helpu i weinyddu ein gwasanaeth galw heibio, gweithgareddau cymdeithasol, gweithgareddau codi arian ac ati.
Gwyddwn bod gwirfoddoli yn newid bywydau pobl mewn sawl ffordd - mae'r bobl sydd yn gwirfoddoli eu hamser yn elwa yn ogystal a'r bobl sydd yn derbyn ein gwasanaeth. Trwy roi ychydig o'ch amser pob wythnos, gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun arall.
Gwneud Beth?
- Gweithio yn rhan o dîm sydd yn cynnig cefnogaeth a chyfeillgarwch i bobl eraill.
- Gweinyddu ein gwasanaeth galw heibio dydd neu gyda'r nos ar rota misol - sesiynau 2-3 awr ar y tro.
- Cadw cwmni i bobl tra'n cymeryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasu a hamdden o fewn eu cymuned.
- Helpu i drefnu a chynnal gweithgareddau codi arian.
Ydych chi eisiau:
- Cyfle i ddysgu sgiliau newydd a datblygu diddordebau newydd?
- Cyfarfod pobl a gwneud ffrindiau newydd?
- Cael blasu gwaith cefnogaeth cyn penderfyny newid gyrfa neu geisio am swydd yn y maes gofal?
- Mwynhau cwmni pobl o bob oedran a chefndir?
- Gweithio yn rhan o dîm sydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r gymuned?
Oes ganddoch chi:
- Hyd at dair awr yr wythnos i'w sbario?
- Diddordeb mewn materion iechyd meddwl?
- Agwedd aeddfed?
- Synnwyr digrifwch a synnwyr cyffredin?
Mi wnewn ni:
- Ddarparu hyfforddiant i chi er mwyn codi eich ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl
- Roi cefnogaeth a goruchwyliaeth.
- Dalu eich costau teithio a threuliau.
